Trap Algae

Darllen yn Saesneg

Mae Pennotec wedi llwyddo i sicrhau cefnogaeth gan Gronfa Her Arfor i dreialu a phrofi dull arloesol o gael gwared ar halogiad algâu o byllau yn rhanbarth Arfor. Mae ein harloesedd arfaethedig yn unigryw i’r DU gan nad oes dull a ddefnyddir yn fasnachol ar hyn o bryd sy’n defnyddio cynhyrchion naturiol i gael gwared ar algâu yn gyfan gwbl o gyrff dŵr.

Gall halogi mewn llynnoedd a phyllau o algâu ac algâu glas/gwyrdd gael effaith negyddol ar yr ecosystem ddyfrol sydd yn ei dro yn gallu effeithio’n negyddol ar gymunedau a busnesau sy’n dibynnu arnynt.

Drwy ddatblygu a phrofi ein proses arloesol, rydym am gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg o fewn y busnes cynaliadwy a gyda’r cwsmeriaid lleol. Yn ystod y peilot hwn byddwn yn ymchwilio i sut y bydd defnyddio’r Gymraeg mewn marchnata digidol a chyfathrebu â chwsmeriaid yn effeithio ar lwyddiant y busnes.